Cynulliad Cenedlaethol Cymru | National Assembly for Wales

Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg | Children, Young People and Education Committee

Ymchwiliad i Gynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg | Inquiry into Welsh in Education Strategic Plans

 

WESP 19

Ymateb gan : CYDAG

Response from : CYDAG

Cwestiwn 1 - Yn eich barn chi, a yw Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg yn cyfrannu at y deilliannau a’r targedau a nodir yng Nghynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg Llywodraeth Cymru?

Cyfyngedig ac anwastad. Y rheswm am y farn hon yw bod natur ac ansawdd y broses o lunio’r Cynlluniau yn amrywio’n eithafol ar draws yr ALlau. Ac eithrio ambell enghraifft o arfer dda, nid yw’r broses o lunio’r cynlluniau yn cynnwys mewnbwn gan yr holl rhanddeiliad sy’n ddisgwyliedig i gyfrannu tuag at weithrediad y cynllun.

 

Mewn llawer iawn o ALLau nid yw’r Cynllun wedi ei brif-lifo o gwbl gyda gwaith a pholisïau cyffredinol yr ALL.

 

Mewn rhai ALLau, nid yw awdur y cynllun na’r prosesau sydd ynghlwm wrth ei lunio yn hysbys i ysgolion sy’n darparu addysg cyfrwng Cymraeg a dwyieithog o fewn yr ALL.

 

Os gysylltir y Cynlluniau Strategol y Gymraeg mewn Addysg gyda Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg y Llywodraeth, mae yna le I amau nad yw’r Strategaeth honno bob amser yn cael ystyriaeth lawn yng ngwaith ar draws AdAS a’r Llywodraeth.

Os ydych o’r farn nad yw Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg yn cyfrannu ddigon, sut y gellir datrys hyn?

Wrth gymeradwyo Cynllun pob ALL, dylid rhoi ystyriaeth llawer mwy amlwg a threiddgar i ansawdd a chynhwysiant y prosesau sydd ynghlwm wrth lunio’r Cynllun.

Dylid mabwysiadu’r un fath o ddyfnder a manylder pan yn mesur llwyddiant y cynlluniau hefyd.

Cwestiwn 2 - Yn eich barn chi, a yw Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg yn sicrhau’r newidiadau angenrheidiol mewn awdurdodau lleol, neu a allant wneud hynny (er enghraifft, sicrhau eu bod yn darparu ar gyfer unrhyw gynnydd yn y galw am addysg Gymraeg)?

Yr un mor bwysig â medru sicrhau twf yw’r angen am ffocws ar sicrhau cadarnhau’r ddarpariaeth lle mae eisoes yn bodoli. Mewn rhai ardaloedd o Gymru mae’n gymaint o ymdrech i amddiffyn y ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg a dwyieithog ag yw i’w datblygu i ateb y galw cynyddol mewn rhai ardaloedd eraill.

Os ydych o’r farn nad yw Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg yn sicrhau newidiadau, neu na allant wneud hynny, sut y gellir datrys hyn?

Mae angen ailystyried ffocws y Cynlluniau i gynnwys yr angen i sicrhau amddiffyn y ddarpariaeth yn ogystal ag i’w datblygu yn unol ag amgylchiadau lleol pob ALL unigol.

Cwestiwn 3 - Beth yw eich barn ar y trefniadau ar gyfer pennu targedau; monitro; adolygu; cyflwyno adroddiadau; cymeradwyo a chydymffurfio â gofynion Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg (a rôl awdurdodau lleol a Llywodraeth Cymru yn y cyswllt hwn)?

Gweler yr ymateb i Gwestiwn 1 uchod.

 

Yn y mwyafrif o achosion, proses ynysig yw llunio’r Cynllun. Ni gynhwysir rhan ddeiliaid yn llawn o bell ffordd. Nid yw sefydliadau yn ymwybodol o’r Cynllun na’r targedau na’u rôl hwythau yng ngweithrediad y cynllun.

 

Mae yna ychydig iawn o achosion o arfer dda lle mae’r Cynllun wedi ei integreiddio’n llwyr a lle mae pob rhan ddeiliad yn rhan llawn o’i lunio, ei weithredu ac yn atebol am y deilliannau.

Os ydych o'r farn bod problemau yn y maes hwn, sut y gellir eu datrys?

Gweler ymateb i Gwestwin 1.

Cwestiwn 4 - Yn eich barn chi, a yw Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg yn amlygu rhyngweithio effeithiol rhwng strategaeth addysg Gymraeg Llywodraeth Cymru a deddfwriaeth a pholisïau perthnasol eraill*?
(*er enghraifft, polisi cludiant ysgolion; rhaglen Ysgolion yr Unfed Ganrif ar Hugain; y datganiad polisi - Iaith fyw:iaith byw; Dechrau’n Deg; polisi cynllunio)?

Yn anffodus, dros y 18 I 24 mis diwethaf, cafwyd enghreifftiau amlwg nad oedd gwahanol is adrannau o fewn ADAS yn sicrhau bod egwyddorion y Cynlluniau a’r Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg yn cael ystyriaeth lawn a gweithredol yng ngweithrediad beunyddiol yr is-adrannau hyn.

Os ydych o'r farn bod problemau yn y maes hwn, sut y gellir eu datrys?

Dylid ystyried penodi/adnabod uwch swyddog o fewn AdAs gyda’r grym I sicrhau bod pob gwas sifil o fewn AdAS yn llawn ymwybodol o’r Cynllun, y Strategaeth a phob polisi arall sy’n ymwneud â’r iaith Gymraeg. Trwy hynny, dylai’r uwch swyddog hwn fod yn atebol am yr agwedd greiddiol hon o waith yr Adran.

Cwestiwn 5 - Yn eich barn chi, a yw canlyniadau’r Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg yn sicrhau canlyniadau teg i bob disgybl, gan gynnwys er enghraifft, disgyblion cynradd / uwchradd; plant o gartrefi incwm isel?

Na.

 

Mewn rhai ardaloedd lle mae yna ymdrech annigonol i amddiffyn y ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg, mae hawliau rhai disgyblion yn y sector uwchradd yn cael eu herydu.

Os ydych o’r farn nad yw canlyniadau’r Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg yn sicrhau canlyniadau teg, sut y gellir datrys hyn?

Gweler ymateb i Gwestiwn 2.

Cwestiwn 6 - Os byddai'n rhaid ichi wneud un argymhelliad i Lywodraeth Cymru o'r holl bwyntiau rydych wedi'u nodi, beth fyddai'r argymhelliad hwnnw?

Gweler ymatebion i’r cwestiynau uchod

Cwestiwn 7 - A oes gennych unrhyw sylwadau neu faterion eraill yr hoffech eu codi na soniwyd amdanynt yn y cwestiynau penodol?